#

Y Pwyllgor Deisebau | 9 Hydref 2018
 Petitions Committee | 9 October 2018
 
 
 ,Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-837

Teitl y ddeiseb: Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy gwyrdd, i leihau’r angen am danwydd ffosil ac ynni niwclear yng Nghymru. Yn fwy penodol:

§    I gefnogi technolegau carbon isel sy’n dod i’r amlwg a allai roi Cymru ar flaen y gad o ran ynni adnewyddadwy, a helpu i arafu newid yn yr hinsawdd; a

§    Buddsoddi mewn ffynonellau ynni nad ydynt yn gadael gwaddol o wastraff ymbelydrol, tyllau sbwriel a niwed i iechyd a’r amgylchedd.

Rydym yn cymeradwyo sefydlu “Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015”, gan ei bod yn rhoi cyfle enfawr i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, yn enwedig o ran ynni glân.

Cytunwn â’r Datganiad Ynni gan Lesley Griffiths ar 6/12/2016 pan ddywedodd fod gan y Cynulliad dair blaenoriaeth. Yn gyntaf, byddwn yn lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yng Nghymru. Yn ail, byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwydd ffosil. Yn drydydd, byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli’r broses o newid i economi carbon isel. Dylid cynnwys gostyngiad o ran niwclear hefyd, fodd bynnag, gan nad yw’n ddewis adnewyddadwy na charbon isel.

 

Cefndir

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei adroddiad, ‘Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2016’. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o gapasiti cynhyrchu ynni yng Nghymru. Mae’n nodi mai 6.9 o oriau Terawat (TWh) o’r 38.8 TWh o drydan yr amcangyfrifwyd iddo gael ei gynhyrchu yng Nghymru yn 2016 a ddaeth o ffynonellau adnewyddadwy. Daeth y 31.9 TWh a oedd yn weddill o danwydd ffosil. Mae ‘ffynonellau adnewyddadwy’ yn cwmpasu ystod o dechnolegau: treulio anaerobig, biomas, pympiau gwres, ynni dŵr, nwy tirlenwi, gwynt ar y môr a gwynt ar y tir, nwy carthion, paneli solar ffotofoltäig ac ynni solar thermol. Hefyd, defnyddir y term ‘technolegau carbon isel’ yn yr adroddiad i gynnwys technolegau adnewyddadwy ynghyd ag ynni niwclear.

Ers i’r adweithydd gweithredol diwethaf yn Wylfa orffen cynhyrchu yn 2015, ni chafodd unrhyw ynni niwclear ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae cynlluniau ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa ar y gweill ar hyn o bryd. Nid yw pŵer niwclear wedi’i ddatganoli, felly nid oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb uniongyrchol dros ganiatáu neu ddatblygu prosiectau ynni niwclear. Mae’r adran isod ar ‘gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’ yn amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r sector niwclear yng Nghymru.

 

Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o bolisïau, datganiadau ac ymgynghoriadau sy’n gysylltiedig â’i huchelgais o gynhyrchu rhagor o ynni o ffynonellau adnewyddadwy a datgarboneiddio’r sector ynni. Gellir gweld crynodeb o’r rhain isod.

Yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ynni Cymru: Newid i economi carbon isel, a chafodd y cynllun cyflenwi cysylltiedig ei gyhoeddi yn 2014. Roedd y polisi a’r cynllun cyflenwi yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni yng Nghymru.

Yn Symud Cymru Ymlaen (2016-2021) mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei ymrwymiad i:

gefnogi mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys morlynnoedd llanw a chynlluniau ynni cymunedol.

Mae’r cynllun gweithredu ar yr economi gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at ddatgarboneiddio. Mae’n amlinellu’n gryno disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran ymdrechion byd busnes i gefnogi’r gwaith o ddatgarboneiddio a chyrraedd targedau ynni. Mae’n nodi:

...mae datgarboneiddio a lleihau ôl traed carbon yn chwarae rhan flaenllaw yn y Contract Economaidd a’n Meysydd Gweithredu.

Ym mis Rhagfyr 2016, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd ddatganiad ar ynni yn y Cyfarfod Llawn. Yn y datganiad hwn, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dair blaenoriaeth o ran egni, sef:

§    lleihau faint o ynni y mae Cymru’n ei ddefnyddio;

§    gostwng dibyniaeth Cymru ar ynni a gynhyrchir o danwydd ffosil; a

§    mynd ati’n rhagweithiol i reoli’r broses o newid i economi carbon isel.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Er mwyn darparu ynni carbon isel sicr a fforddiadwy, mae angen cymysgedd o wahanol dechnolegau o wahanol feintiau, o raddfa gymunedol i brosiectau mawr. Yn y tymor canolig, mae hyn yn golygu newid i gynhyrchu carbon isel, sy’n cynnwys niwclear. Byddwn yn manteisio i’r eithaf ar swyddogaeth cynhyrchu adnewyddadwy.

Ym mis Medi 2017, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ddatganiad ychwanegol ar ynni. Yn y datganiad hwn, nododd Ysgrifennydd y Cabinet uchelgais Llywodraeth Cymru i Gymru gynhyrchu 70 y cant o ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, i 1GW o gapasiti ynni adnewyddadwy fod o dan berchnogaeth leol yn 2030, ac i bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd fod ag elfen o berchnogaeth leol erbyn 2020.

Mae Gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol a thechnegol i helpu mentrau cymdeithasol a busnesau bach a chanolig ledled Cymru i ddatblygu eu cynlluniau ynni adnewyddadwy eu hunain. Mae’n cynnwys pecyn cymorth sy’n rhoi arweiniad wrth ddatblygu prosiect o’r cysyniad cychwynnol hyd at adeiladu a gweithredu; cefnogaeth a chyngor; benthyciadau a grantiau ar gyfer datblygu prosiectau; a phorth i hwyluso gweithio mewn partneriaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar lwybr carbon isel i Gymru ar hyn o bryd. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn barn rhanddeiliaid ar y ffordd orau i Gymru leihau ei hallyriadau cyn 2030, yn unol â’i dyletswydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gefnogi a hyrwyddo prosiectau ynni adnewyddadwy. O ran pŵer niwclear, mae’r ymgynghoriad yn nodi:

Byddai gorsaf bŵer niwclear newydd ym Môn yn fuddsoddiad cyfalaf enfawr ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau cymaint o fudd ag sy’n bosibl i Gymru o’r gwaith o’i hadeiladu a’i gweithredu. Gallai adweithyddion modiwlar bach (SMRs) fod o fudd yn y dyfodol, gan adeiladu ar y capasiti technegol sy’n bodoli’n barod yn safleoedd niwclear presennol Cymru. Mae’r rhain yn ddibynnol iawn ar benderfyniadau cyllido Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar Bolisi Echdynnu Petrolewm yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig polisi ar gyfer echdynnu petrolewm yn y dyfodol:

Ni chredwn fod y dystiolaeth a nodir uchod, ochr yn ochr â’r dadansoddiad, yn cyflwyno achos cryf bod y budd yn gysylltiedig ag echdynnu petrolewm yn gwrthbwyso ein hymrwymiad i reoli ein hadnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Gan hynny, dyma yw ein polisi arfaethedig ar gyfer y dyfodol ar gyfer echdynnu petrolewm (olew neu nwy): Ni fyddwn yn cyflwyno unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru, nac yn cefnogi ceisiadau am drwyddedau petrolewm yn sgil hollti hydrolig.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi blog ar yr ymgynghoriad hwn.

Yn ei llythyr at y Pwyllgor, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn cyfeirio at wastraff ymbelydrol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu polisi o waredu daearegol ar gyfer ymdrin â gwastraff ymbelydrol gweithgarwch uwch yn ddiogel yn y tymor hir - ac ni fyddai cyfleuster gwaredu daearegol (CGD) ond yn gallu cael ei ddarparu yng Nghymru ar sail wirfoddol. Golyga hyn y byddai’n rhaid i gymuned leol fynegi parodrwydd i drafod y posibilrwydd o fod yn lleoliad ar gyfer CGD arfaethedig. Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil flog ar yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymr ar CGD.

 

Cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i bŵer niwclear

Yn Ynni Cymru: Newid i economi carbon isel mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei barn ar rôl pŵer niwclear yng nghymysgedd ynni Cymru:

Yn y tymor byr, bydd nwy, ynni niwclear a bio-ynni yn darparu’r ynni i wneud iawn am natur ysbeidiol y cyflenwad o ffynonellau adnewyddadwy. Yn y tymor canolig i’r hirdymor, bydd datblygu technolegau storio ynni a’r genhedlaeth nesaf o “grid deallus” yn cynnig cyfleoedd pellach i reoli natur ysbeidiol y cyflenwad o ffynonellau adnewyddadwy a chydbwyso’r cyflenwad a’r galw yn fwy effeithiol [...]

Mae adeiladu gorsaf niwclear newydd Horizon (Wylfa B) yn elfen hanfodol nid yn unig o raglen Ynys Ynni Môn ond o’n dyfodol ynni ehangach am y bydd yn sicrhau ffynhonnell ynni gyson i gydategu’r ffynonellau ynni adnewyddadwy ysbeidiol. Yn ddiau, mae risgiau yn gysylltiedig ag ynni niwclear ond mae’r risgiau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd mor ddifrifol erbyn hyn fel na allwn anwybyddu technoleg carbon isel allweddol sydd wedi’i brofi. Mae Llywodraeth Cymru o blaid datblygu gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn. Mae’r datblygiad hwn hefyd yn cynnig manteision economaidd hirdymor sylweddol i Ynys Môn a Gogledd Cymru yn gyffredinol a gallai gyfrannu £2.34 biliwn i’r economi dros y cyfnod hyd at 2025. Mae Horizon yn amcangyfrif y bydd 5,000 o swyddi adeiladu yn ystod y cyfnod prysuraf a thua 800 o swyddi uniongyrchol yn ystod ei hoes weithredol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn frwd yn ei chefnogaeth i bŵer niwclear. Ar 5 Mehefin 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig ar Wylfa Newydd. Nododd fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn dechrau trafodaethau â chwmni Hitachi ynghylch prosiect arfaethedig Wylfa Newydd. Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad hwn:

Bydd y prosiect gwerth £15 biliwn ar gyfer adeiladu Wylfa Newydd, y prosiect buddsoddi mwyaf yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf.  Yn wir, dyma’r buddsoddiad mwyaf o fewn y sector preifat yng Nghymru o fewn cenhedlaeth, sy’n dod â’r posibilrwydd o drawsnewidiad economaidd gwirioneddol.

Ar 28 Mehefin 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn ymwneud ag ymweliad gan swyddogion o Lywodraeth y DU â Thrawsfynydd a lansio bargen y sector niwclear. Dywedodd:

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn flaengar iawn dros sawl blwyddyn wrth gefnogi’r sector niwclear.  Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y sector am nifer o flynyddoedd [...]

Rydym yn barod ac yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ddarparu’r agenda niwclear gyffrous iawn a phwysig hon.

Mae’r datganiad yn rhestru nifer o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r sector niwclear yng Nghymru: drwy gefnogi’r gwaith o ddatblygu cadwyni cyflenwi; drwy ffurfio Fforwm Niwclear Cymru; drwy roi cymorth i ddatblygu sgiliau; a thrwy ariannu gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi.

 

Camau gweithredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ymchwiliad i ddyfodol ynni craffach i Gymru. Roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn cynnwys y dylai Cymru:

§    geisio diwallu ei holl anghenion ynni drwy ffynonellau adnewyddadwy ac, yng nghyd-destun yr angen i dorri o leiaf 80% ar ei hallyriadau carbon erbyn 2050, gosod dyddiad targed ar gyfer cyflawni hyn; a

§    sicrhau bod targedau cenedlaethol ar gyfer lleihau galw ac allyriadau carbon yn dod yn ddyletswyddau lleol. Dylid cyflawni’r rhain drwy’r fframwaith sydd wedi’i bennu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Gofynnwyd cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a’r Prif Weinidog ar ystod eang o feysydd sy’n gysylltiedig â’r ddeiseb, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, datblygiadau niwclear a datgarboneiddio. Amlinellir safbwynt Llywodraeth Cymru yn yr adran flaenorol. Hefyd, yn 2017, cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Ym mis Mehefin 2018, cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar Forlyn Llanw Bae Abertawe. Yn ystod y ddadl hon, mynegwyd siom drawsbleidiol ynghylch datganiad gan Lywodraeth y DU yn nodi’r penderfyniad i beidio ag ariannu’r prosiect.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.